Rhif y ddeiseb: P-06-1402

Teitl y ddeiseb:  Diwygio deddfwriaeth yng Nghymru i alinio â Lloegr mewn perthynas â chynyddu’r dreth gyngor yn ormodol

Geiriad y ddeiseb:  Yn Lloegr mae’n rhaid i awdurdodau lleol benderfynu a yw’r cynnydd maent yn bwriadu ei gyflwyno i’r dreth gyngor yn ‘ormodol’. Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn pennu trothwyon ar gyfer pa mor ormodol yw cynnydd yn y dreth, a elwir yn ‘egwyddorion refferendwm’.  Ar hyn o bryd gall cynghorau lleol yng Nghymru gynyddu’r dreth gyngor hyd at 10% y flwyddyn heb refferendwm lleol, ac mae cynghorau lleol yng Nghymru wedi gwneud hyn yn ystod y 12 mis diwethaf.  Mae llawer yn bwriadu gwneud hyn eto gan roi baich ariannol enfawr ar aelwydydd sydd eisoes yn ei chael hi’n anodd.

Mae’r papur biffio hwn https://commonslibrary.parliament.uk/research-briefings/sn05682/ yn egluro’r system o gael refferendwm lleol ar gyfer cynnydd ‘gormodol’ i’r dreth gyngor, sydd wedi bod ar waith yn Lloegr ers blwyddyn ariannol 2012/13.  Mae’n egluro’r cefndir cyfreithiol i’r system, gan gynnwys y gweithdrefnau, amseru, a chostau ar gyfer refferenda, a sut mae unrhyw gynnydd i’r dreth gyngor yn cael ei gyflwyno gan awdurdodau lleol.

 

 


1.        Y cefndir

Llywodraeth Cymru sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r cyllid a gaiff awdurdodau lleol, a hynny drwy’r Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi’u Hailddosbarthu. Yn 2024-25, bydd awdurdodau lleol yn cael tua £5.7 biliwn gan Lywodraeth Cymru ar ffurf cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dyrannu £1.4 biliwn ar ffurf grantiau penodol, a £960 miliwn ar ffurf cyllid cyfalaf. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae’r Gyllideb Ddrafft yn ei olygu i awdurdodau lleol yn yr erthygl hon gan Ymchwil y Senedd

Yr awdurdodau lleol eu hunain sy’n codi gweddill yr arian ar gyfer gwasanaethau lleol.  Yr elfen fwyaf arwyddocaol o'r cyllid hwn yw’r dreth gyngor. Mae nifer o ddulliau eraill o gynhyrchu incwm hefyd, fel taliadau dewisol am wasanaethau hamdden, parcio a gwastraff masnachol.

Mae awdurdodau lleol yn ymgynghori ar hyn o bryd ynghylch cynyddu eu treth gyngor ar gyfer 2024-25 i wneud iawn am rai o’r diffygion a amcangyfrifir yn eu cyllid. Yn eu tystiolaeth ysgrifenedig am Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) wedi amcangyfrif y bydd diffyg o dros £400 miliwn yng nghyllid awdurdodau lleol Cymru yn y flwyddyn ariannol nesaf. Mae erthygl gan BBC Wales (a gyhoeddwyd 14 Chwefror 2024) yn dangos y diffygion cyllidebol a amcangyfrifir yn ardal pob cyngor:

Llun yn cynnwys testun, llun sgrin, bedyddfaen  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig

2.     Cynnydd yn y dreth gyngor

Ar gyfartaledd, cynyddodd y dreth gyngor  £82, neu 5.5%, ar gyfer eiddo ym Mand D yng Nghymru. Cynyddodd praeseptau’r heddlu 6.8% (£21) ar gyfartaledd. Mae’r cynnydd cyfunol hwn wedi arwain at gynnydd o 5.8% (neu £102) ar gyfartaledd ym mand D.  Dyma’r cynnydd cyfunol uchaf yng nghyfraddau Band D ar gyfartaledd ers 2019-20 pan welwyd cynnydd o 6.6% (£99) ar gyfartaledd ar gyfer Band D.

Rhwng 2018-19 a 2023-24, mae cyfradd gyfunol Band D (y dreth gyngor a’r heddlu) wedi cynyddu 26% ar gyfartaledd a, thros gyfnod o ddegawd (rhwng 2012-13 a 2023-24), mae wedi cynyddu dros 50%.

Mae erthygl BBC Cymru yn dangos y cynnydd canrannol arfaethedig presennol yn y dreth gyngor fesul awdurdod lleol yng Nghymru ar gyfer 2024-25, ond nid yw awdurdodau lleol wedi cwblhau eu cyllidebau terfynol eto:

Llun yn cynnwys testun, llun sgrin, rhif, bedyddfaen  Wedi cynhyrchu’r disgrifiad yn awtomatig

3.     Terfynau'r dreth gyngor a'r fframwaith deddfwriaethol

Ar hyn o bryd, mae gan Weinidogion Cymru bwerau i gyfyngu ar gynnydd gormodol yng ngofynion cyllideb awdurdodau lleol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru. Fodd bynnag, mae Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, yn dweud yn ei hymateb i’r ddeiseb fod “Llywodraeth Cymru yn parchu ymreolaeth awdurdodau lleol ac nid yw wedi defnyddio pwerau i gapio treth gyngor yng Nghymru ers datganoli.”

Mae’r Gweinidog hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw’r opsiwn i gynnal refferenda’r dreth gyngor “yn berthnasol i Gymru”. Cyflwynwyd cynllun y refferendwm o dan Ddeddf Lleoliaeth 2011 ac mae'r darpariaethau’n gymwys i Loegr yn unig.

Mae’r Gweinidog yn mynd rhagddi i ddweud y canlynol:

Mae cymhlethdod egwyddorion y refferendwm a osodwyd yn Lloegr yn anodd i drethdalwyr eu deall, ac mewn rhai achosion, mae'n caniatáu cynnydd mwy o faint mewn rhai ardaloedd (ee 15% yn Croydon, a 10% yn Slough a Thurrock, yn 2023-24).  Dylid nodi hefyd bod cymhlethdod a chostau cynnal refferenda yn rhoi baich ychwanegol ar adnoddau awdurdodau lleol, a byddai hyn yn gwaethygu'r pwysau ariannol sydd arnynt eisoes.

3.1.          Fframwaith deddfwriaethol i gyfyngu ar gynnydd gormodol

Y ddeddfwriaeth berthnasol yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (Deddf 1992).  

Mae Adran 52B o Ddeddf 1992 yn rhoi’r pŵer i Weinidogion Cymru gymryd camau yn erbyn awdurdod lleol os ydynt o’r farn bod gofynion ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn i ddod yn ‘ormodol’.

“Gofynion y gyllideb” yw'r swm sy'n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng gwariant disgwyliedig yr awdurdod lleol (hy yr hyn y bydd angen ei wario i gyflawni ei swyddogaethau, arian grant y bydd yn rhaid ei ad-dalu i Weinidogion Cymru, arian i’w ddyrannu i gronfeydd wrth gefn) a’i incwm disgwyliedig (hy yr arian y mae'r awdurdod yn disgwyl ei gael y flwyddyn honno, yn amodol ar rai eithriadau).

Mae adran 52B yn darparu bod yn rhaid iddynt gynhyrchu set o egwyddorion a fydd yn cael eu defnyddio i benderfynu a yw gofynion y gyllideb yn ormodol.  Mae hefyd yn darparu bod yn rhaid i'r egwyddorion hyn (o leiaf) gynnwys cymhariaeth rhwng gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw a’r gofynion ar gyfer blwyddyn gynharach. 

Mae adran 52C yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad sy'n pennu “swm tybiannol” ar gyfer cyllideb awdurdod lleol, i'w ddefnyddio fel sail i gymharu’r flwyddyn dan sylw ac unrhyw flwyddyn flaenorol.  Gall Gweinidogion Cymru bennu symiau tybiannol mewn rhai amgylchiadau, er enghraifft os yw swyddogaeth neu ffin wedi newid – a, thrwy hynny, gellir gwneud cymhariaeth ddilys rhwng gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw.  Gellir ei ddefnyddio hefyd i bennu swm tybiannol os na bennwyd gofynion y gyllideb ar gyfer blwyddyn gynharach.

Yn dilyn penderfyniad a wnaed drwy ddefnyddio'r egwyddorion sy'n ofynnol o dan adran 52B, os yw Gweinidogion Cymru o'r farn bod y swm a bennir gan awdurdod fel gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn yn ormodol, mae adran 52D yn galluogi Gweinidogion Cymru i “ddynodi” neu “enwebu’r” awdurdod lleol hwnnw.

3.2.        Awdurdodau Lleol Dynodedig

O dan adran 52E, os caiff awdurdod lleol ei ddynodi, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu’r awdurdod o’r uchafswm y maent yn cynnig y dylai ei gyfrifo fel gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn, a phennu'r uchafswm y mae Gweinidogion Cymru yn cynnig y gallai'r awdurdod ei gyfrifo fel ei ofynion ar gyfer y flwyddyn heb i’r swm hwnnw fod yn ormodol.   

Yna gall yr awdurdod lleol naill ai:

§    dderbyn yr uchafswm dynodedig a ddarparwyd gan Weinidogion Cymru; neu

§    herio penderfyniad Gweinidogion Cymru.

Os na fydd yr awdurdod lleol yn llwyddo i herio'r uchafswm, gall Gweinidogion Cymru gyhoeddi gorchymyn gorfodol i'r awdurdod lleol i sicrhau bod yr awdurdod yn cydymffurfio.

3.3.        Awdurdodau Lleol Enwebedig

O dan adran 52L, yn achos awdurdod lleol enwebedig, rhaid i Weinidogion Cymru hysbysu'r awdurdod o'r swm y byddent wedi’i gynnig fel targed ar gyfer gofynion y gyllideb ar gyfer y flwyddyn dan sylw pe bai’r awdurdod yn awdurdod dynodedig.

Ar ôl i awdurdod lleol gael ei enwebu, gall Gweinidogion Cymru benderfynu:

§    dynodi’r awdurdod (yn dilyn y weithdrefn yn adran 52E a amlinellir uchod); neu 

§    benderfynu ar y swm y maent yn cynnig y dylai’r awdurdod ei gyfrifo’n swm tybiannol yng nghyd-destun gofynion ei gyllideb ar gyfer y flwyddyn.

Os yw Gweinidogion Cymru yn rhoi gwybod i awdurdod lleol eu bod wedi cynnig swm arfaethedig,  mae gan yr awdurdod 21 diwrnod i naill ai:

§    dderbyn y swm a gynigiwyd gan Weinidogion Cymru; neu

§    herio’r swm a gynigiwyd a gofyn i Weinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad.

Os caiff y swm a gynigir ei herio gan yr awdurdod lleol a bod y rhesymau a roddwyd dros yr her yn cael eu derbyn, gall Gweinidogion Cymru ailystyried eu penderfyniad

3.4.        Dehongli’r ddeddfwriaeth

Er nad yw'r darpariaethau ym Mhennod IVA o Ddeddf Cyllid 1992 yn sôn yn benodol am y dreth gyngor, teitl y bennod sy’n ymdrin â nhw yw “Limitations of Council Tax and Precepets”.  Mae Papur Briffio Tŷ’r Cyffredin ar gapio’r dreth gyngor a gyhoeddwyd yn 2004 (Pennod III yn benodol) yn rhoi rhywfaint o gefndir ynghylch pam mae'r adran hon o’r ddeddfwriaeth yn rhoi'r pŵer i Weinidogion gapio'r dreth gyngor.     

Mae Gweinidogion Cymru wedi amlinellu’n flaenorol sut y gallent fod yn barod i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael i gyfyngu ar unrhyw gynnydd yn y dreth gyngor os ystyrir bod y cynnydd yn ormodol.  Er enghraifft, yn ei datganiad ar Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2014-15 (16 Hydref 2013), dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol ar y pryd (Lesley Griffiths AC) y y canlynol:

Wrth alluogi’r Awdurdodau Lleol i benderfynu lefel y dreth gyngor yn lleol, rwy’n cynnig hyblygrwydd iddynt reoli eu cyllidebau. Nid yw’r awdurdodau cyfatebol yn Lloegr sy’n destun cyfyngiadau yn sgil rhewi’r dreth gyngor yn mwynhau’r un hyblygrwydd.   Fodd bynnag, rwyf wedi datgan yn hollol glir fy mod yn fodlon defnyddio’r pwerau capio sydd ar gael imi os ceir cynnydd gormodol.

Cafwyd datganiad tebyg yn 2015 gan Leighton Andrews AC, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus ar y pryd, a hynny yn ei lythyr yn cyd-fynd â Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2015-16:

Rwy'n barod i ddefnyddio'r pwerau capio sydd ar gael i mi pe bawn yn ystyried bod unrhyw gynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn ormodol.  Rwyf hefyd yn disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau ariannu sydd ar gael wrth ystyried darparu gwasanaethau ac wrth bennu ei gyllideb a’i Dreth Gyngor.

Yn ei hymateb i’r ddeiseb hon, dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ei bod yn ceisio rhoi “hyblygrwydd” i lywodraeth leol benderfynu sut y mae’n ariannu blaenoriaethau lleol:

mae Llywodraeth Cymru yn sianelu cymaint â phosibl o'r arian sydd ar gael i mewn i'r prif Setliad Llywodraeth Leol, er mwyn i awdurdodau lleol gael mwy o hyblygrwydd wrth ddyrannu cyllid yn unol â blaenoriaethau lleol.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar fod Llywodraeth y DU yn darparu £25 miliwn ychwanegol mewn cyllid canlyniadol  “i gefnogi'r gweithlu gofal cymdeithasol ac ysgolion, ac i helpu cynghorau i ymateb i bwysau eraill yn eu cymunedau lleol”.  

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.